top of page

Sefydlwyd Academi Sgiliau Cymru fel y Bartneriaeth Dysgu Seiliedig ar Waith gyntaf o'i bath yng Nghymru ym mis Hydref 2009. Mewn ymateb i'r heriau a nodir yn yr Agenda Trawsnewid ar gyfer Addysg Ôl-16 yng Nghymru, daeth y Bartneriaeth ag ystod amrywiol o raglenni rhagorol ynghyd a darparwyr DSW o'r un anian sy'n parhau i arwain ar yr heriau hyn drwy ehangu'r opsiynau sydd ar gael i bob dysgwr a lleihau dyblygu costus o ran darpariaeth. Ers 1 Awst 2010, mae'r Bartneriaeth wedi bod yn gweithredu fel un contract gyda Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, ar gyfer cyflwyno rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Ar hyn o bryd mae gan y Coleg un o’r comisiynau mwyaf gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r ystod ehangaf o Brentisiaethau mewn dros 58 o feysydd galwedigaethol, yn amrywio o Lefelau 2 i 5.

Ar hyn o bryd mae SAW yn darparu ar draws ardal ddaearyddol amrywiol iawn sy'n cwmpasu Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Carpentry Work

Academi Sgiliau Cymru

Aelodau'r Bwrdd Gweithredol

Darparwyr Hyfforddiant

SAW-Transparent-Logo (1).png

Academi Sgiliau Cymru
Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith

Ein cenhadaeth yw darparu darpariaeth o ansawdd uchel i ysbrydoli dysgwyr, cefnogi cyflogwyr a chyfoethogi cymunedau.

Ffurflen Ymholiad

Rhowch fanylion yr ymholiad yma!

Diolch am gyflwyno!

SAW Logo - White Text.png

Cyfeiriad

Academi Sgiliau Cymru

Grŵp Colegau NPTC
Heol Dwr-Y Felin
Castellnedd
SA10 7RF

Cysylltwch

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube

© 2025 Academi Sgiliau Cymru┃Cedwir pob hawl.

bottom of page