top of page
CCC logo pentwr indigo.png

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Ers ei sefydlu, mae'r Coleg yn cynllunio ac yn cefnogi darpariaeth Addysg Uwch Gymraeg mewn modd strategol ar draws prifysgolion Cymru. Yn dilyn adolygiad o weithgareddau'r Coleg yn 2016/17, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Coleg ymestyn ei waith i'r sector ôl-16, gan gwmpasu addysg bellach a phrentisiaethau. Nod y Coleg yw gweithio gyda darparwyr i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru.

Mae'r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio'r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt.Rydym yn ddiolchgar i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a'r gefnogaeth.

Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy glicio ar y botwm isod!

The Welsh flag copy.jpg

Academi Sgiliau Cymru

Straeon Llwyddiant Prentisiaethau Cymraeg

No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.

Dewch i gwrdd â Chynrychiolwyr Dwyieithog Academi Sgiliau Cymru!

Fel partneriaeth, rydym yn addo hyrwyddo a chynnig cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bob dysgwr a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ymhlith dysgwyr a chyflogwyr. Rydym yn addo creu amgylchedd cefnogol a helpu i hwyluso uwchsgilio staff a dysgwyr i deimlo'n hyderus wrth ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

wyn2.jpg
Skills_Academy_Wales_Logo.jpg

Wyn Lloyd

Cydlynydd Cymraeg

acologo.jpg

Christine Webb

Cynrychiolydd Arweiniol Dwyieithog

bottom of page