top of page

Mae Prentis Newydd Gymhwyso yn Agor Ei Busnes Ei Hun

Updated: Nov 11, 2022



Yn fuan ar ôl cyflawni ei phrentisiaeth broffesiynol Lefel 3 mewn TGCh a Thelegyfathrebu, llwyddodd Caitlyn Sheldon i agor ei busnes ei hun o’r enw CVS-Technical.


Darllenwch fwy i glywed am fenter newydd Caitlyn a sut y rhoddodd y rhaglen brentisiaeth yr hyder iddi hi ddechrau ei chwmni ymgynghori TG.


Mae CVS-Technical yn gweithio ym meysydd atgyweirio a hyfforddi TG. Mae’r gwaith atgyweirio yn ffocysu ar faterion caledwedd a meddalwedd, rydw i’n ceisio gwneud fy ngwasanaeth mor dryloyw â phosibl, gan hysbysu fy nghwsmeriaid o bob cam o’r atgyweiriad ac yn union pa gostau a allai godi fel y mae ganddynt lawer o ryddid a dewis o ran sut yr ydw i’n gwneud yr atgyweirio. Gyda chostau popeth yn cynyddu, mae’n amlwg bod llawer o gwsmeriaid gwir yn gwerthfawrogi hyn ac rydw i’n gallu eu helpu i ddewis cydrannau wedi’u hailwampio lle bynnag y bo hynny’n briodol.


Rydw i’n dal i ddatblygu’r ochr hyfforddi, ac rydw i’n anelu at allu helpu pobl sy’n cael trafferth gyda’u technoleg, fel hen bobl, perchnogion busnesau bach, pobl sy’n mynd yn ôl i’r byd gwaith. Rydw i’n gobeithio ei wneud yn hyfforddiant y gall defnyddwyr bob dydd gael mynediad ato’n hawdd fel y bydd modd iddynt ddysgu rhai o hanfodion TG sef y pethau y rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol ar ôl i ni ddysgu “popeth” arall.


Rydw i wedi cael rhai cyfleoedd cyffrous iawn ers i fi ddechrau ym mis Mawrth, fel mynd i’n caffi atgyweirio lleol bob mis a rhoi gliniadur ac iPad i ffoaduriaid Wcrainaidd i'w defnyddio yn yr ysgol. Rydw i hefyd wedi dechrau contract gydag ysgol gyfun leol i atgyweirio eu iPads bob wythnos.


Mae cymorth ac addysg ITeC wedi fy ngwneud yn dechnegydd hyderus a chymwys erbyn hyn. Ni fyddai’n bosib i mi ddechrau fy musnes fy hun yn 22 oed heb yr hanfodion y rhoddwyd i fi gan ITeC a’i staff.

Comments


bottom of page